Rhys ab Owen AS / MS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd Canol De Cymru

Senedd Regional Member for South Wales Central

Yma i Chi

Cladin

Fy nghyfarfod cyntaf pan gefais fy ethol yn AS dros Ganol De Cymru oedd gydag etholwyr yn pryderu am gladin a diogelwch tân yn eu fflatiau ym Mae Caerdydd. Ers hynny rwyf wedi gweithio’n gyson gyda phreswylwyr ac ymgyrchwyr i sicrhau gwell diogelwch mewn fflatiau. Diwedd mis Mawrth, arweiniais ddadl n y Senedd ynglŷn â’r angen, er mwyn y trigolion, am amserlen glir ar gyfer unioni.

On Your Side

Cladding

My first meeting when I was elected as a Senedd member for South Wales Central was with constituents concerned about cladding and fire  safety in their flats in Cardiff Bay. Since then, I have  worked consistently with residents and campaigners to ensure better safety in high-rise homes. At the end of March, I led a debate in the Senedd on the need for a clear timetable for remedial work.

Parc Hailey

Rwyf wedi cwrdd ag ymgyrchwyr o Barc Hailey yn Ystum Taf sy’n dymuno gwarchod mannau gwyrdd yn eu cymuned. O’r ymgyrch hon ac eraill fel y rhai sydd am amddiffyn ‘y Dolydd’ yn yr Eglwys Newydd mae’n amlwg bod angen i ni wella ymgynghoriad gyda thrigolion a chynllunio gwell pan ddaw at ddatblygiadau mawr a’u goblygiadau.

Hailey Park

I have met with campaigners from Hailey Park in Llandaff North who wish to preserve green spaces in their community.

From this campaign and others like those wanting to protect the Northern Meadows in Whitchurch, it is evident we need to improve consultation with residents and have better planning when it comes to large developments and their implications.

Rhys ab Owen Cladding campaign
Rhys ab Owen Hailey Park campaign

Llais Cryf Yn Y Senedd

Ymgyrchu
  • Rydw i wedi codi’r angen i ddiweddaru cyffordd rheilffordd Gorllewin Caerdydd yn Nhreganna er mwyn sicrhau bod pedwar trên yr awr yn gallu mynd ar Linell y Ddinas.
  • Rwyf wedi galw am welliannau i lwybrau cerdded ym Mae Caerdydd fel y gallwn wneud ein Prif-ddinas yn gyrchfan dwristiaeth ddeniadol i ymwelwyr o Gymru a rhyngwladol.
  • Galwais am greu parciau newydd yng Nghaerdydd, mewn llefydd fel Llaneirwg a Sain Ffagan. Byddai hyn yn creu ardaloedd hyfryd i bobl leol, byddai’n sicrhau llain las o amgylch y ddinas, a byddai hefyd yn amddiffyniad naturiol i lifogydd.
  • Fe wnes i gyflwyno gwelliannau i gyfraith newydd i wahardd plastig untro yng Nghymru i atal sbwriel rhag dyfeisiau vapes ac e-sigaréts.

A Strong Voice In The Senedd

Campaigning

I have campaigned and called for: 

  • the updating of the Cardiff West rail junction in Canton to ensure four trains per hour on the City Line.
  • improvements to walkways in Cardiff Bay so we can make our capital an attractive tourism destination for Welsh and international visitors.
  • the creation of new parks in places like St Fagans and St Mellons. This would create beautiful places for local people, would ensure a green belt around the city and provide a natural protection against floods.
  • put forward amendments to a new law to ban single use plastics in Wales to prevent litter from vaping devices and e-cigarettes.
Pwyllgor Deisebau

Rwyf yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn y Senedd.
Deisebu’r Senedd yw un o’r ffyrdd uniongyrchol y
gallwch godi eich pryderon. Mae deisebau gyda digon
o gefnogwyr yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Deisebau.

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried tystiolaeth
a phenderfynu beth all wneud i fynd â’r ddeiseb
ymhellach. Mae enghreifftiau diweddar wedi bod
ynghylch taliadau ychwanegol annheg am ystadau
adeiladu newydd sy’n effeithio ar drigolion ystâd
‘Y Felin’ yn Nhreganna, cau meddygfa ym Mhenarth
a galw am gadw Neuadd Dewi Sant yn nwylo
cyhoeddus.

Petition's Committee

I sit on the Senedd’s Petition Committee.

Petitioning the Senedd is a  way of raising something  that matters to you. Petitions with enough supporters are  referred to the Petitions Committee.

The Committee will consider  evidence and decide what it  can do to take the petition  further.

Recent examples have been the unfair extra charges for
new-build estates that  impact on residents of the  ‘Mill’ estate in Canton, the  closure of a doctor’s surgery in Penarth and a call for St. David’s Hall to be kept in public hands.

Rhys ab Owen MS British Heart Foundation campaign
Rhys ab Owen Hailey Park campaign

Cysylltu - Contact

Fel eich Aelod Senedd rhanbarthol dros Ganol De Cymru gallaf gynrychioli etholwyr o bob rhan o Gaerdydd, Bro Morgannwg, Pontypridd, Rhondda a Chwm Cynon. Mae gen i swyddfa yn Nhreganna a gallwch chi gael gafael arnaf fi neu fy nhîm unrhyw bryd.

As your regional Senedd  Member for South Wales  Central I can represent  constituents from all over  Cardiff, the Vale of Glamorgan, Pontypridd,  Rhondda and the Cynon  Valley. I have an office in  Canton and you can get hold of me or my team at any time.

Rhys ab Owen AS / MS